Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 – Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 20 Tachwedd 2023
Amser:
13.31 -
15.34
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13550
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Alun Davies AS Peter Fox AS (yn lle James Evans AS) Adam Price AS |
Tystion: |
Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Michael Kay, Llywodraeth Cymru Gareth McMahon, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cafwyd ymddiheuriadau gan James Evans. Croesawodd y Pwyllgor Peter Fox, a oedd yn dirprwyo ar ei ran.
2 Y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru): Sesiwn dystiolaeth
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
3 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
3.1 SL(6)403 - Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Penodi) (Diwygio, Darpariaeth Drosiannol a Dirymu) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3.2 SL(6)411 - Rheoliadau'r Gofrestr o Ddarparwyr Gwasanaethau (Gwybodaeth Ragnodedig a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
4 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
4.1 SL(6)402 - Rheoliadau Deddf Ardrethu Annomestig 2023 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru (rhoddwyd copi caled ohono i Aelodau) a chytunwyd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.2 SL(6)404 - Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.3 SL(6)405 - Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.4 SL(6)406 - Rheoliadau Gwahardd Llosgi Gwastraff Penodedig, neu ei Ddodi ar Safle Tirlenwi (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.5 SL(6)407 - Gorchymyn Gwahardd Gwaredu Gwastraff Bwyd i Garthffos (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.6 SL(6)408 - Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
4.7 SL(6)409 - Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) (Diwygio) 2023.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru (rhoddwyd copi caled ohono i Aelodau) a chytunwyd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.8 SL(6)410 - Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig) (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
5 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes
5.1 SL(6)393 - Rheoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) (Diwygio) (Cymru) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
6 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
6.1 Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: y Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan
Weinidog yr Economi.
6.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Rhestrau Sefydliadau) (Dirymu) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.
7 Papurau i'w nodi
7.1 Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip: Ymchwil i baratoi ar gyfer datganoli plismona yng Nghymru
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip.
7.2 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
8 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
9 Y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru): Trafod y dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddarparwyd gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a chytunwyd i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol gyda chwestiynau atodol.
10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor)
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft diwygiedig a chytunodd arno.
11 Egwyddorion drafft ar gyfer deddfu drwy Filiau'r DU
Trafododd y Pwyllgor ei egwyddorion drafft a chytunodd i drafod y mater ymhellach yn ei gyfarfod nesaf.